Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Tachwedd 2016
Amser: 09.18 -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3775
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Rhiannon Tudor Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Chief Medial Officer Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru Chris Brereton, Llywodraeth Cymru Andrew Evans, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Zoe Kelland (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 429KB) Gweld fel HTML (245KB)
1.1 Clywodd y Pwyllgor gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor, fel rhan o'i baratoadau ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon; Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru; Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid; ac Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd, yn dilyn y sesiwn hon, yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gofyn rhai cwestiynau ychwanegol a gwneud rhai sylwadau ychwanegol ynghylch y gyllideb ddrafft.
6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, Chris Tudor-Smith, yr Uwch Swyddog Cyfrifol, Chris Brereton, Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol.